Cymuned y Mwynglawdd yn Dathlu Treftadaeth Leol mewn Digwyddiad i Lansio “Cledrau’r Cof”

Published: 25/04/2025

Cynhaliwyd dathliad arbennig ym Mhlas Pentwyn, Coed-poeth, yn ddiweddar wrth i’r trigolion ddod at ei gilydd i anrhydeddu diwydiant rheilffyrdd y Mwynglawdd. Rheilffyrdd mwyngloddfeydd y Mwynglawdd oedd enaid yr ardal yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, a chynhaliwyd digwyddiad arbennig i gofio amdanynt wrth lansio Cledrau’r Cof, llyfryn deniadol iawn o atgofion, hanes a mynegiant creadigol.

Timeless Tracks Launch_1

Trefnwyd y digwyddiad mewn partneriaeth â Phartneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig, Grŵp Coffee Companions y Mwynglawdd ac Asiant Cymunedol y Mwynglawdd. Roedd y digwyddiad yn benllanw wythnosau o weithdai a gynhaliwyd ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd, pan ddaeth aelodau o’r gymuned ynghyd i rannu straeon, ysgrifennu barddoniaeth a chreu gwaith celf sydd bellach wedi’u rhoi ar gof a chadw yn llyfryn Cledrau’r Cof.

Fel rhan o ddathliadau cenedlaethol Railway 200, sy’n nodi 200 mlynedd o reilffyrdd modern, roedd y digwyddiad yn gyfle hefyd i dalu teyrnged i effaith barhaus y diwydiant rheilffyrdd ar gymunedau, gyrfaoedd a chysylltiadau.

Timeless Tracks Launch_9

Roedd cyfle i ymwelwyr fwynhau arddangosfa o waith creadigol a hanesyddol, gan gynnwys cerddi, ffotograffiaeth, arteffactau a map trawiadol graddfa-fawr o Waith Calch y Mwynglawdd. Un o uchafbwyntiau’r digwyddiad oedd y casgliad gwych o drenau a lorïau model sy’n eiddo i un o’r trigolion lleol, Brian, a gariodd y llwyth olaf o ddeunyddiau o Chwarel y Mwynglawdd cyn iddo gau yn 1994.

Dywedodd Brian:

“Roeddwn yn falch iawn o dderbyn gwahoddiad i gymryd rhan yn y digwyddiad. Roedd yn anrhydedd mawr cael dangos fy modelau o’r trenau a’r lorïau sy’n cynrychioli rhan fawr o hanes y Mwynglawdd. Fe wnaeth y chwarel a’r rheilffordd roi bywoliaeth dda i mi, a llawer o bobl eraill, am bron i 37 o flynyddoedd. Rwy’n falch fy mod wedi cymryd rhan a chael cyfle i weld rhan o’n bywyd gwaith yn cael ei chydnabod a’i chofio.”

Timeless Tracks Launch_4

Dywedodd Josie Rayworth, Swyddog Rheilffordd Cymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig:

“Mae hi wedi bod yn fraint arbennig cael dod i adnabod y gymuned hon, rwyf wedi cael croeso gwerth chweil. Rydyn ni wedi chwerthin llawer gyda’n gilydd dros y misoedd diwethaf, ac roeddwn wir yn edrych ymlaen at ein boreau Mawrth gyda’n gilydd. Mae’r prosiect wedi creu albwm hyfryd o atgofion, sy’n llawn cynhesrwydd, hiwmor a hanes. Rwyf wedi mwynhau pob munud o’r prosiect.”

Ychwanegodd Susan, aelod o’r Grŵp Coffee Companions: 

“Roedd pob un ohonom yn edrych ymlaen at ein boreau coffi bob bore Mawrth. Roedd yn rhoi gwefr i bawb ac yn dod â phobl at ei gilydd. Roeddwn yn falch o helpu Josie gyda’r digwyddiad, ac roedd yn braf cael bod yn rhan o’r holl beth. Roedd yn dda gweld y pentref yn dod ynghyd i rannu atgofion am yr amser a fu.”

Mae llyfryn Cledrau’r Cof, a lansiwyd yn ystod y digwyddiad, wedi helpu i godi bron i £200 i’r Grŵp Coffee Companions. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gweithgareddau parhaus y grŵp a’i gynaliadwyedd yn y tymor hir.

Mae fersiwn digidol o’r llyfryn bellach ar gael ar wefan y 3 Sir Gysylltiedig yma.