Lansio Teithiau am ddim ar y rheilffyrdd i ddathlu Hanes, Treftadaeth a Diwylliant Lleol

Cyhoeddwyd: 23/10/2025

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig yn gwahodd aelodau’r cyhoedd i ddysgu am eu treftadaeth leol mewn ffordd newydd a chynaliadwy drwy ymuno â "Theithiau ar y Rheilffordd – Camu i’r Stori", sef cyfres o deithiau am ddim o dan arweiniad arbenigwyr, a gynhelir yn ystod yr hydref a’r gaeaf ledled Sir Gaer a Wrecsam.

Ariennir y teithiau gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, Cronfa Datblygu Rheilffyrdd Cymunedol a Trafnidiaeth Cymru, ac maent yn dathlu’r straeon, pobl a’r lleoedd sy’n cysylltu cymunedau ar hyd rhwydwaith y rheilffyrdd. Mae pob taith yn cael ei harwain gan Dywysydd Taith Bathodyn Gwyrdd, a bydd pawb sy’n cymryd rhan yn teithio ar drên rhwng y cyrchfannau ac yn mwynhau cinio wedi’i baratoi’n lleol ar y daith. Wyth lle yn unig sydd ar bob taith, felly mae pawb sy’n dymuno cymryd rhan yn cael eu hannog i gadw lle yn fuan ar Eventbrite.

Cynhelir y daith gyntaf. 'Straeon Menywod', ddydd Mawrth, 11 Tachwedd 2025, a bydd yn rhoi sylw i fywydau menywod anhygoel sydd wedi gadael eu marc ar Gaer a Wrecsam, o seintiau i aelodau o’r teulu brenhinol, o addysgwyr, meddygon a gwleidyddion.

Ddydd Mawrth, 18 Tachwedd 2025, bydd taith'Y Gororau' rhwng Wrecsam a Rhiwabon yn olrhain cloddweithiau hynafol Offa a Wat ac yn darganfod sut mae’r tirweddau hyn wedi siapio bywyd ar hyd y ffin.

'Bydd taith ‘Rheilffordd 200’ddydd Mawrth, 2 Rhagfyr 2025, yn dathlu dwy ganrif o reilffyrdd modern, ac yn ystyried cyfraniadau lleol i’r chwyldro ym myd trafnidiaeth a arweiniodd at gysylltu cymunedau ledled y byd.

Yn olaf, bydd'Cysylltiadau'r Ffin'ddydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2025, yn edrych yn fanwl ar hanes Wrecsam a Chaer, ac yn datgelu sut mae pobl, nwyddau a syniadau wedi croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr ers cenedlaethau.

Dywedodd Josie Rayworth, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig: “Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda’n partneriaid lleol ar brosiect mor unigryw. Mae Teithiau ar y Rheilffordd yn dod â phobl at ei gilydd i ddarganfod y straeon, pobl a’r cysylltiadau anhygoel sy’n gwneud ein rhanbarth mor arbennig, tra’n hybu dulliau teithio mwy cynaliadwy ar yr un pryd.”

Dywedodd Paul Webster, Rheolwr Cymorth Rhanbarthau y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol: “Mae’r profiadau arbennig hyn i ymwelwyr yn cynnig ffordd unigryw ac anffurfiol i fwynhau treftadaeth a harddwch y rhanbarth hwn, ac rydym yn falch iawn o gefnogi’r fenter. Bydd dysgu am hanes, diwylliant a bwyd y cyrchfannau lleol yn llawer mwy pleserus wrth deithio ar y trên.”

Dywedodd Melanie Lawton, Swyddog Arweiniol Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: "Mae defnyddio’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus i ddarganfod atyniadau a chefnogi economïau lleol yn wych; mae’r 3 Sir Gysylltiedig yn parhau i gynnig prosiectau arloesol i gysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd."

Mae pob un o’r Teithiau ar y Rheilffordd am ddim ac yn cynnwys taith ar y trên a chinio. Rhaid cadw lle ymlaen llaw drwy fynd i Eventbrite.