Partneriaeth Rheilffordd 3 Sir Gysylltiedig yn cyrraedd rhestr fer Gwobrau Cenedlaethol

Cyhoeddwyd: 15/12/2024

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol sy’n cwmpasu 3 Sir Amwythig, Wrecsam a Chaer, wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Rheilffyrdd Cymunedol Cenedlaethol 2025, a hynny mewn sawl categori, gan gynnwys Twristiaeth a Hamdden, Cyfraniad Gwirfoddol Eithriadol, Eich Gorsaf, a Phrosiectau Creadigol Cymunedol a Chelf Gorsafoedd.

Daw’r cyhoeddiad hwn ar adeg arwyddocaol iawn i’r Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol gan ei bod yn dathlu dwy garreg filltir bwysig eleni. Mae’r Gwobrau yn dathlu 20 mlynedd o anrhydeddu mentrau gwych o’r sector rheilffyrdd cymunedol, ac ar yr un pryd mae’r diwydiant rheilffyrdd ehangach yn dathlu 200 mlynedd ers dyfodiad rheilffyrdd modern.

Mae prosiect cyntaf 3 Sir Gysylltiedig ar y rhestr fer yn canolbwyntio ar Dwristiaeth a Hamdden ar hyd y rheilffordd gylchol rhwng Amwythig a Crewe trwy Wrecsam a Chaer. Roedd y prosiect Cysylltu Twristiaeth, a ariannwyd gan Trafnidiaeth Cymru, yn dod â thri sefydliad rheoli cyrchfannau ynghyd, sef Visit Shropshire, Dyma Wrecsam a Visit Chester and Cheshire, i hybu twristiaeth gynaliadwy ar draws y tair sir. Y nod oedd annog ymwelwyr i ddefnyddio’r trenau fel y prif ffordd o deithio i ymweld ag atyniadau lleol.

Fel rhan o’r prosiect hwn datblygwyd map dwyieithog newydd, wedi’i ddylunio gan Lemondrop Creative, a oedd yn cynnwys dros 60 o atyniadau a phrofiadau y gellir eu cyrraedd yn hawdd o’r gorsafoedd rheilffordd ar hyd y daith. Cafodd prosiect “3 Sir ar Drên” sylw hefyd yng nghylchgrawn Cheshire Life mewn erthygl 7 tudalen yn rhifyn mis Hydref.

Roedd yr ail brosiect i gyrraedd y rhestr fer yn canolbwyntio ar Brosiect Celf Gorsaf Wrecsam a ariannwyd gan Trafnidiaeth Cymru. O dan arweiniad yr artist lleol, Sophia Leadill, bu’r bartneriaeth yn gweithio gydag elusennau digartref, The Wallich a Housing Justice, i drawsnewid yr ystafell aros yng ngorsaf Wrecsam Cyffredinol yn lleoliad atyniadol o’r enw “Cynefin”. Y nod yw ysbrydoli pobl ac adlewyrchu hunaniaeth y gymuned tra’n rhoi sylw i effaith emosiynol achosion o hunanladdiad sy’n gysylltiedig â rheilffyrdd ar y gymuned. Trwy ymgysylltu â’r gymuned, gan gynnwys cynnal gweithdai gyda grwpiau lleol, mae’r gwaith celf yn cofnodi hanes a diwylliant Wrecsam, yn ogystal ag atgofion y personol y trigolion.

Cyrhaeddodd prosiect arall y rhestr fer yn y categori Cyfraniad Gwirfoddol Eithriadol, diolch i waith Gina Haigh o grŵp mabwysiadu gorsaf Nantwich, ac enwebwyd Cyfeillion Gorsaf y Waun ar gyfer y categori Eich Gorsaf.

Friends of Chrik Station

Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo uchel ei phroffil yn Newcastle nos Iau, 13 Mawrth 2025, mewn partneriaeth â Lumo.

Mae’r Gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, yn cydnabod pob math o brosiectau sy’n cefnogi cynhwysiant cymdeithasol, trafnidiaeth gynaliadwy, yn grymuso cymunedau ac yn rhoi hwb i ddatblygiad economaidd. Bydd y noson yn dangos sut mae’r mudiad rheilffyrdd cymunedol yn meithrin cysylltiadau ac agweddau cadarnhaol ac yn codi ymwybyddiaeth pobl leol am eu rheilffyrdd, gan ddod â budd i gymunedau a newid bywydau yn aml.

Dywedodd Josie Rayworth, Swyddog Rheilffyrdd Cymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig:

“Rwyf wrth fy modd bod ein Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer pedair o’r gwobrau Rheilffyrdd Cymunedol. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dathlu’r gwaith caled, creadigrwydd, ac angerdd y tu ôl i’n prosiectau ac yn rhoi cyfle i’n cymunedau a’n partneriaid gael eu hanrhydeddu. Mae’n fraint cael gweithio gyda phobl mor ymroddedig sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau.”

Dywedodd Sarah Chilton, cyfarwyddwr cyfathrebu a pholisi’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol:

“Mae 2025 yn flwyddyn arbennig iawn i reilffyrdd cymunedol a’r diwydiant rheilffyrdd yn ehangach, ac rydyn ni wrth ein bodd i weld cynifer o gynigion gwych sy’n rhoi cyfle i ni roi sylw i’r bobl, prosiectau a mentrau anhygoel o bob rhan o’n mudiad sy’n tyfu ar lawr gwlad.

“Llongyfarchiadau enfawr i’r 3 Sir Gysylltiedig am gyrraedd y rhestr fer. Rydyn ni’n edrych ymlaen i ymuno â nhw a’u cydweithwyr o’r rheilffyrdd cymunedol a phartneriaid y diwydiant i ddathlu eu gwaith caled, eu hagwedd gadarnhaol, a’u hymrwymiad yn ein noson Wobrwyo ym mis Mawrth.”

Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru:

"Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau hyn yn dyst i waith caled y Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol a’i hymroddiad i ymgysylltu â chymunedau.”

Dywedodd Lorna Crawshaw, Pennaeth Rhaglenni a Phartneriaethau Cymunedol Groundwork Gogledd Cymru, y sefydliad sy’n cynnal y Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol:

“Mae’n fraint enfawr bod y Bartneriaeth wedi cael ei henwebu ar gyfer pedair gwobr. Mae’r gydnabyddiaeth yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad y Bartneriaeth i feithrin cysylltiadau yn y gymuned a chreu newid cadarnhaol.”