Disgyblion Ysgol y Waun yn dadorchuddio Murlun Rheilffordd 200

Cyhoeddwyd: 20/05/2025

Mae darn o gelf lliwgar a llawn ystyr i ddathlu 200 mlynedd o reilffyrdd modern wedi cael ei ddadorchuddio gan ddisgyblion Ysgol y Waun mewn cydweithrediad â’r artist o Gymru Rhiannon Roberts.

Cafodd y prosiect ei gynnal diolch i nawdd hael gan Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol 3 Sir Gysylltiedig (CRP) a Thrafnidiaeth Cymru fel rhan o Raglen Rheilffordd 200.

Mae’r murlun trawiadol yn mesur 1.2 metr wrth 2.4 metr, ac yn cyflwyno ymateb unigryw’r disgyblion i’w tref genedigol y Waun a’r cysylltiad rhwng y dref â threftadaeth y rheilffyrdd. Yn ogystal â hyn, cafodd y pren ar gyfer y murlun ei roi am ddim a’i ddanfon i’r safle gan gangen leol y Waun o Jewson, y cwmni cyflenwadau adeiladu. Rydym yn ddiolchgar iawn i Lee, aelod o staff Jewson, am drefnu’r cyfraniad hael hwn ar ôl iddo glywed fod ei hen ysgol gynradd yn creu’r murlun.

Mae’r gwaith celf yn rhoi lle amlwg i Ysgol y Waun, gan fod y darn canol yn cynrychioli rhan ganolog yr ysgol yng nghymuned y Waun. Yn ymestyn o’r canolbwynt hwn mae pob math o ddelweddau, symbolau a geiriau sy’n cynrychioli’r holl bethau sy’n bwysig i’r disgyblion yn eu hardal leol. Cafodd yr elfennau hyn eu dewis yn ofalus a’u portreadu mewn ffordd greadigol i roi sylw i ddiwylliant, hanes, a harddwch naturiol y Waun, gan blethu’r cyfan ag arwyddocâd y rheilffordd.

Gweithiodd Rhiannon Roberts o gwmni Rhiannon Art Ltd yn agos gyda’r disgyblion, gan eu harwain drwy’r broses greadigol o’r cam cyntaf o ddatblygu’r cysyniad i’r cyffyrddiadau olaf gyda’r brwsh paent. Roedd y prosiect cydweithredol yn gyfle gwerthfawr i’r plant fynegi eu doniau artistig, dysgu mwy am eu treftadaeth leol a chyfrannu at ddarn o gelf gyhoeddus y gall pawb ei fwynhau am amser hir.

Dywedodd Josie Rayworth, Swyddog Rheilffordd Cymunedol Partneriaeth y 3 Sir Gysylltiedig:

“Roedd yn fraint cael bod yn rhan o brosiect murlun Ysgol y Waun. Cawsom groeso cynnes gan yr ysgol ac roedd yn wych cyfarfod y disgyblion a gweld pa mor frwdfrydig oedden nhw.

“Roeddwn wrth fy modd fy mod wedi cael cyfle i gyfrannu at y gwaith celf hefyd, roedd yn llawer o hwyl i gymryd rhan! Diolch yn fawr iawn i Rhiannon Art am ei gwaith anhygoel wrth greu’r murlun a’n helpu i ddathlu iaith a diwylliant Cymru, Rheilffordd 200 a threftadaeth y rheilffyrdd yn ein hardal.”

Dywedodd Nichola Morgan, Arweinydd Cyfnod Sylfaen Ysgol y Waun:

“Roedden ni wrth ein boddau pan benderfynodd Josie Rayworth o Bartneriaeth y 3 Sir Gysylltiedig gytuno i ariannu’r prosiect celf gwych hwn ar ein cyfer yn Ysgol y Waun. Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar bod ein Criw Cymraeg wedi cael y cyfle unigryw hwn i gydweithio â’r artist talentog Rhiannon Roberts.

“Bydd y murlun anhygoel, sy’n portreadu ein cymuned leol a threftadaeth Cymru mewn ffordd mor hardd, yn cael ei arddangos ar safle ein Cyfnod Sylfaen. Diolch o galon i chi am droi ein breuddwyd yn realiti.”

Dywedodd Rhiannon Roberts o gwmni Rhiannon Art Ltd:

"Roedd yn bleser i weithio gyda Josie o Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol 3 Sir Gysylltiedig yn ogystal â'r staff a phlant o Ysgol y Waun. Rydym yn gweithio gyda'i gilydd i greu manwl a bywiog murlun i gynrychioli yr ysgol, y gymuned leol a phwysigrwydd y rheilffordd yn yr ardal. Mae prosiectau fel hyn yn wych ar gyfer cael pawb at ei gilydd i gael hwyl a bod yn greadigol. Rwyf wrth fy modd y darn olaf ac rwy'n gobeithio y bydd pawb sy'n gweld ei fod yn teimlo yr un fath."

Dywedodd Dr Louise Moon, Arweinydd Rhaglen Rheilffordd 200 Cymru a’r Gororau 200:

"Mae’r gwaith celf hwn yn creu gwaddol arbennig ar gyfer Rhaglen Rheilffordd 200 yn y Waun ac mae’n dangos y cysylltiadau rhwng y rheilffyrdd, cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol mewn ffordd wych."

Mae hanes y murlun yn cael ei gyhoeddi yn ystod Wythnos Rheilffyrdd Cymunedol, a drefnir gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol a’i noddi gan Rail Delivery Group, ymgyrch genedlaethol sy’n rhoi sylw i’r gwaith gwych sy’n digwydd ym maes rheilffyrdd cymunedol i ddod â phobl at ei gilydd a chreu cymuendau mwy cynhwysol a symudol, yn ogystal â’r budd economaidd a chymdeithasol a ddaw o’r rheilffyrdd.