Cledrau’r Cof: Taith drwy hanes lleol y Mwynglawdd

Published: 16/03/2025

Dathlu Straeon, Atgofion, a Threftadaeth y Rheilffyrdd mewn Lansiad Arbennig

Mae taith ryfeddol drwy amser ar fin cyrraedd ei huchafbwynt mewn digwyddiad arbennig ar 29 Mawrth ym Mhlas Pentwyn, 1A Ffordd y Castell, Coedpoeth, Wrecsam LL11 3NU, rhwng 10:00 AM a 2:00 PM. 29th March at Plas Pentwyn, 1A Castle Rd, Coedpoeth, Wrexham LL11 3NU, from 10:00 AM to 2:00 PM

Mae Cledrau’r Cof yn brosiect ysbrydoledig sydd wedi dwyn ynghyd aelodau o Grŵp Coffee Companions, sy’n cyfarfod bob wythnos i rannu ac ailddarganfod eu hatgofion melys. Mae’r sesiynau ym Mhyllau Plwm y Mwynglawdd wedi datgelu straeon personol anhygoel, a gofnodwyd ar ffurf recordiadau hanes llafar, adroddiadau ysgrifenedig, cerddi, a gwaith celf.

Mae’r fenter hon, a gefnogwyd gan y Swyddog Rheilffordd Cymunedol, Josie Rayworth o Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig, wedi creu cysylltiadau cryf a datgelu naratifau lleol emosiynol ac arwyddocaol. Y canlyniad yw Cledrau’r Cof, llyfryn hardd wedi’i guradu, sy’n bwrw golwg ar y gorffennol pan oedd rheilffyrdd y mwyngloddiau wrth galon y cymunedau.

Bydd y digwyddiad hwn hefyd yn rhan o ddathliadau cenedlaethol Railway 200, sy’n nodi 200 mlynedd o reilffyrdd modern. Mae Railway 200 yn ymgyrch flwyddyn o hyd sy’n cael ei harwain gan bartneriaethau er mwyn dathlu hanes rheilffyrdd ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd i ystyried gyrfa yn y diwydiant rheilffyrdd. Mae’r ymgyrch yn annog cymunedau, rhwydweithiau rheilffyrdd, a grwpiau eraill i gymryd rhan yn y dathliadau a chydnabod grym trawsnewidiol y rheilffyrdd dros y ddwy ganrif ddiwethaf.

Dyma oedd gan Josie Rayworth i’w ddweud am y prosiect:

“Mae wedi bod yn fraint cael gweithio gyda Grŵp Coffee Companions a chlywed eu straeon anhygoel. Mae gweld yr atgofion hyn wedi’u cofnodi yn y llyfryn Cledrau’r Cof yn brofiad arbennig iawn, ac rwy’n gobeithio y bydd yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i werthfawrogi ein hanes lleol.”

Roedd Susanne Allcroft, Asiant Cymunedol y Mwynglawdd, yn falch iawn o’r prosiect cydweithredol:

“Rwy’n hynod o falch o’r gwaith mae Grŵp Coffee Companions a Phartneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig wedi’i wneud i gynhyrchu’r llyfr hwn. Rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau ei ddarllen ac edrych ar yr atgofion sydd ynddo.”

Bydd y lansiad yn ddathliad bywiog o dreftadaeth leol ac arwyddocâd y rheilffyrdd, a bydd yn cynnwys:

- Arddangosfa o waith celf a straeon gan y cyfranogwyr

- Cyfle i gyfarfod y cyfranogwyr, a rhannu eu profiadau personol

- Helfa dreftadaeth i’r plant, cyfle i ddysgu ffeithiau difyr a straeon.

- Bwth ffotograffau Fictoraidd, gall teuluoedd wisgo dillad y cyfnod a mynd nôl mewn amser

- Arddangosfa o arteffactau gwerthfawr, pob un yn adrodd hanes unigryw a difyr

- Stondinau gan grwpiau lleol, yn rhoi gwybodaeth am orffennol diwydiannol cyfoethog yr ardal

Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr weld llyfryn Cledrau’r Cof, teyrnged barhaus i’r atgofion a’r hanes a ddatgelwyd yn ystod y prosiect.

Ymunwch â ni i ddathlu’r gorffennol, y straeon sy’n cadw ein hanes yn fyw, a 200 mlynedd o reilffyrdd!

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig yn falch o gefnogi mentrau sy’n dod â chymunedau at ei gilydd ac sy’n hybu cyfoeth diwylliant lleol. Mae Prosiect Cledrau’r Cof yn enghraifft o gymuned yn dod ynghyd i ddathlu a chryfhau’r clymau sy’n ein cysylltu ar draws y cenedlaethau.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect neu’r lansiad, cysylltwch â:

Josie Rayworth

Swyddog Rheilffordd Cymunedol

Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol y 3 Sir Gysylltiedig

josie.rayworth@3countiesconnected.org.uk